Diolch am ymweld â gwefan ap-el ....... Thank you for visiting the ap-el website

ap-el                                   

                 

Cwmni cyfyngedig di-elw a sefydlwyd fel cronfa i gynorthwyo bachgen bach o’r enw Elis yw ap-el. Mae gan Elis Barlys yr Ymennydd a bydd yr holl elw yn cael ei ddefnyddio i wella safon byw Elis.

Gan fod cyflwr Elis mor ddifrifol, mae angen llawer o offer arbenigol er mwyn ceisio gwella ei ddatblygiad. Mae’r deunyddiau hyn yn hynod o ddrud ond yn angenrheidiol. Yn y tymor byr, ein bwriad yw creu ‘Ystafell Amlsynhwyraidd’ ar ei gyfer.

Mae’n destun balchder fod Jonathan Davies MBE wedi cytuno i hyrwyddo ap-el. Os hoffech helpu Elis hefyd fel Jonathan, ceir rhagor o wybodaeth ar y safwe hwn.

Ein nod yn y tymor hir yw datblygu yn gorff sy’n brwydro dros hawliau plant Cymraeg eu hiaith sydd ag Anghenion Arbennig i dderbyn addysg addas a chyfartal yng Nghymru. Teimlwn nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar ddarparu cynhaliaeth un i un drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw plant fel Elis yn medru mynnu eu hawliau felly ein dyletswydd ni yw brwydro ar eu rhan.

Mae pob aelod o ap-el yn gweithio’n wirfoddol felly nid oes ceiniog o’r hyn a gaiff ei godi yn mynd tuag at dalu cyflogau. Gan mai unigolyn yw Elis nid yw hi’n bosib i ap-el dderbyn statws elusen gofrestredig. Serch hynny, gan fod y gronfa wedi ei chofrestru fel cwmni cyfyngedig, cyhoeddir y cyfrifon yn flynyddol gan “Tŷ’r Cwmnïau”. Rhedir y gronfa yn hollol agored. Ceir mwy o wybodaeth am fwrdd rheoli ap-el ar y safwe hwn.

© Cronfa ap-el Cyf 2005